CYNGOR CYMUNED LLANARTHNE
Mae gan Gyngor Cymuned Llanarthne sedd wag ar gyfer Cynghorydd fydd yn cael ei llenwi trwy broses cyfethol. Mae gan Gynghorwyr cyfetholedig yr un hawliau a chyfrifoldebau â’r Cynghorwyr hynny sy’n ennill eu lle trwy etholiad. Disgwylir i Gynghorwyr fynychu cyfarfodydd misol y Cyngor ac efallai y gofynnir iddynt wasanaethu ar Is-bwyllgor sydd fel arfer yn cyfarfod yn chwarterol. Mae’r rôl yn amrywiol ac mae’n galluogi pobl leol i ddefnyddio eu sgiliau a’u profiad i gyfrannu at a gwella’r gwaith a wneir gan y Cyngor er lles y gymuned.
Mae’r Cyngor yn dymuno gwahodd pobl gymwys ac awyddus i gyflwyno eu ceisiadau ar gyfer rôl Cynghorydd trwy ddanfon llythyr neu Ebost yn amlinellu’r canlynol:
Y we-ddolen i gadarnhau eich bod yn gymwys i ddod yn Gynghorydd yw https://www.electoralcommission.org.uk/sites/default/files/2021-03/Part%201%20Can%20you%20stand%20for%20election%20P%20and%20C.pdf
Gofalwch eich bod yn cynnwys eich cyfeiriad cartref, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost yn eich llythyr.
Mae croeso i holl aelodau’r gymuned wneud cais. Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i sicrhau cydbwysedd yn aelodaeth y Cyngor sy’n adlewyrchu cymuned Llanarthne.
Dyddiad cau: 31/12/2024
Trafodir y ceisiadau yng nghyfarfod y Cyngor ar 10/09/2024
Dylech ysgrifennu at y Clerc, Gary Evans neu e-bostio eich cais i clerk@llanarthne.org.